Un Diwrnod Yn Yr Eisteddfod

Portmeirion Cymru Un Diwrnod Yn Yr Eisteddfod

Item: 9000018664

£6.99

Free standard delivery on UK orders over £50

add to wish list
updown

Product Description

Cyfrol arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004, sef nofel fywiog am anturiaethau milwr 30 oed yn ystod un diwrnod a dreuliwyd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003, yn cynnwys nifer o sylwadau ffraeth a deifiol am bynciau trafod cyfoes Cymru.





The prize-winning volume of the Daniel Owen Memorial Prize at the Newport Welsh National Eisteddfod 2004, being a lively novel about the adventures of a 30-year old soldier during one day spent at the 2003 National Eisteddfod, with various witty and scathing comments about contemporary issues in Wales.





Stori – nage naratif – tylwyth teg ein dyddiau ni ydi’r gwaith hwn. Fel y pwysleisiwyd gan amryw, y mae’n gwbwl wahanol i weithiau buddugol eraill Robin Llywelyn. Nid ffantasi sydd yma: ond go brin mai realiti sydd yma ychwaith, er bod yna elfennau cryf o hynny. Hanes un dydd Wil Chips (sillefir chips yn Saesneg yma, ond yn fwy Cymraeg mewn mannau eraill) yn Eisteddfod Meifod 2003 sydd yn y llyfr. Hogyn o ardal Blaenau Ffestiniog ydi o; tad trallodus, am fod ei wraig wedi mynd â’i ddau blentyn i’w chanlyn i’r Alban; cyn-filwr sydd wedi gweld ymladd mewn mannau enbyd, gan gynnwys Irac. Yn yr eisteddfod y mae’n cyfarfod ei hen gyfaill Gwyn Bont (Gwyn ap Llwyd), deallusyn parablus; Delyth Wyn, merch o ardal Meifod; ac Alun, perchennog Dolabram, hen dy helaeth yn yr un ardal, ac eraill.





Y mae yma giamocs a chadw reiat digrif ar brydiau, gan gynnwys presenoldeb Wil mewn gwenwisg prifardd (Iwan Llwyd) ar lwyfan y pafiliwn; ond y mae yma, hefyd, lawer o fyfyrio dwys iawn ar faterion mawr, gan gynnwys y rhyfel yn Irac. (Mewn cromfachau yma, dylid nodi fod yna gryn dipyn o ddefnydd 'cilyddol' yn y gwaith, lle mae’r awdur yn dwyn ei gyfeillion a’i gydnabod i mewn iddo – y mae dwyn Iwan Llwyd iddo yn enghraifft o hynny.)





Y mae diwedd y llyfr yn rhagweladwy o tua deuparth y ffordd drwyddo ac yn gymysgedd o wireddu breuddwydion (yr elfen dylwyth teg) a rhywfaint o weledigaeth fusnes Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion.





Dydi Wil ddim wir yn un o’r 'hogia go-iawn' a gawn ni yng nghân Bryn Fôn, er bod yna elfennau o’r rheini ynddo fo. Yn un peth y mae safon ei iaith o’n rhyfeddol o goeth. Gwir fod yr awdur wedi lleoli ei brif gymeriad yn ardal Blaenau Ffestiniog, lle roedd siawns i iaith hogiau go-iawn fod yn eithaf rhywiog – hyd yn ddiweddar; ond y mae iaith Wil yn mynd y tu hwnt i realaeth. Yn wir, y mae safon yr iaith, sydd yma yn ei ffurfiau llafar gogleddol – gan gynnwys ambell ffurf sy’n or-lafar i mi, megis 'glaswallt', 'mathamatag', 'colag' – yn dra choeth. Ffurfiau gogleddol, ac nid Meifodaidd, a geir hyd yn oed yng ngeneuau cymeriadau o’r ardal honno – ar wahân i un 'Niege' cyfeiliorn. Y mae iaith y llyfr yn iaith sy’n seiliedig ar lawnder iaith yr awdur ei hun. Hynny ydi, y mae yma 'buro iaith y llwyth', fel y dywedodd T. S. Eliot unwaith am iaith y bardd. Yr wyf gant y cant o blaid yr egwyddor hon o roi i awdur y cyfle i ddefnyddio holl bosibiliadau ei iaith, yn lle bod yn rhaid iddo ei gau ei hun o fewn cyfyngiadau mwy llythrennol-realistig llafar beunyddiol y rhan fwyaf ohonom. Y mae Robin Llywelyn yn gwneud hyn yn ddeheuig iawn gan wneud i bethau 'swnio' yn naturiol.





At hyn, y mae Robin Llywelyn wedi creu yma Gwyn Bont, y mae ei ddiddordebau deallusol yn adlewyrchiad digon teg o ddiddordebau’r awdur ei hun, fe allwn dybio. Y mae’r cymeriad hwn yn rhoi cyfle i’r awdur draethu am bob math o wybodaethau a damcaniaethau. Ac y mae Wil ac eraill yn barod i wrando, hyd yn oed os ydi Wil ei hun yn teimlo ar ei galon y dylai brotestio, braidd yn rhy reolaidd, am yr holl draethu – a ddylai fod yn drwm, ond sydd, mewn gwirionedd, yn hynod o ddifyr. (Gyda llaw, y mae Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion i’w weld yma ac acw yn y gwaith, hefyd, mewn trafodaethau ar winoedd a choginio, ond y mae o wedi gweithio’r diddordebau hyn, yn deg iawn, i gyfansoddiad ei gymeriadau.)





Wedyn, y mae yma brofiadau Wil mewn rhyfel. Llwyddodd yr awdur i wneud y rheini’n arteithiol. Y profiadau hyn ydi’r pethau mwyaf dwys yn y gwaith, ac y maen nhw wedi lliwio cymeriad Wil: y mae’n gymeriad sydd, trwy bob helynt, yn deimladwy, ac yn un y mae ei gariad at ei blant yn sylfaenol yn ei fywyd.





Y mae yna brofiad arall sy’n rhedeg drwy’r gwaith, a hynny ydi sefyllfa’r Gymraeg. Yr ymdrech i gynnig ateb i ddirni’r sefyllfa honno ydi un o brif ysgogiadau’r gwaith, a’r hyn sy’n dwyn y prif gymeriadau i berthynas â’i gilydd. A ydyn nhw’n byw’n hapus am byth wedyn yn Nolabram? Wel, does ond gobeithio eu bod nhw.





Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.









  • ISBN: 9781843234135 (1843234130)




  • Cyhoeddwyd / Published: Awst / August 2004, Gwasg Gomer Press




  • Fformat / Format: Clawr meddal, 144 tudalen / Soft cover, 144 pages




  • Iaith / Language: Cymraeg / Welsh




Collect in Store

This item is available for collection.

Home Delivery

UK mainland delivery from £4.95

check delivery cost

You Can Also...

Get help, write a review or share this product...

ask a questionwrite a reviewprint this pagebookmark and share