DANFON

Beth fydd cost danfon nwyddau i mi?

AM DDIM am archebion yn yr DU dros £50

Cost safonol gwasanaeth danfon Royal Mail UK Tracked yw £3.95.

Gweler y tabl isod am gostau danfon rhyngwladol:

Gwlad Cost
Prisiau EU   
   
Channel Islands £3.95
Deyrnas Unedig £3.95
Austria £10.95
Belgium £10.95
Bulgaria £10.95
Croatia £10.95
Cyprus £10.95
Czech Republic £15.95
Denmark £10.95
Estonia £10.95
Finland £12.95
France £10.95
Germany £10.95
Greece £10.95
Hungary £10.95
Ireland £10.95
Italy £10.95
Latvia £10.95
Lithuania £10.95
Luxembourg £10.95
Malta £10.95
Netherlands £10.95
Poland £10.95
Portugal £10.95
Rwmania £10.95
Gweriniaeth Slofaciaidd £10.95
Slofenia £10.95

Sbaen

£10.95
Sweden £10.95
   
Gweddill Ewrop  
   
Gibraltar £10.95
Gwlad yr Iâ £10.95
Norwy £15.95
Rwsia £15.95
Y Swistir £10.95
Twrci £10.95
   
Gweddill y Byd  
Gogledd America  £18.95
   
Unol Daleithiau America £18.95
   
Y Dwyrain Canol  
   
Israel £21.95
Saudi Arabia £21.95
   
Dwyrain Pell ac Awstralasia  
   
Awstralia £22.95
Tsieina £21.95
Hong Kong £21.95
Japan £21.95
Malaysia £21.95
Seland Newydd £22.95
Singapore £21.95
Korea (De) £21.95
Taiwan £21.95
   
Canolbarth a De America  
   
Ariannin £21.95
Brasil £21.95
Mecsico £21.95
   
Affrica ac Asia  
   
India £21.95
Kenya £21.95
Nigeria £21.95
Pacistan £21.95
De Affrica £21.95
   

Pa bryd bydd y nwyddau’n fy nghyrraedd?

Cyn belled â bod eich eitemau mewn stoc, anelwn at ddanfon eich archeb o fewn 3 diwrnod gwaith. Sylwer – yn ystod ein cyfnodau prysur, dylech ganiatáu hyd at 7–10 diwrnod.

Gyda danfoniadau rhyngwladol byddwn bob amser yn anelu at ddanfon eich archeb atoch o fewn 7–10 diwrnod. Sylwer – yn ystod ein cyfnodau prysur, dylech ganiatáu hyd at 10–14 diwrnod.

Nid yw dyddiau Sadwrn, Sul nac unrhyw ?yl Banc yn cael eu cyfrif yn ddyddiau gwaith.

Pan fo’n bosibl, byddwn yn ymdrechu i anfon eich archeb i gyd efo’i gilydd; fodd bynnag, bydd unrhyw eitemau nad ydynt mewn stoc yn cael eu hanfon cyn gynted â phosibl. Sylwer – dim ond un ffi ddanfon y byddwn yn ei chodi arnoch fesul archeb.

Oes modd i mi dracio fy archeb?

Oes. Byddwch yn derbyn ebost unwaith y bydd eich archeb wedi’i gwneud ac un arall pan fydd yr archeb wedi’i hanfon.

Oes modd gwneud archeb i’w hanfon i fy nghyfeiriad gwaith, neu i gyfeiriad arall?

Wrth archebu, gallwch nodi cyfeiriad danfon o’ch dewis. Sylwer ar y canlynol:

Byddwn angen eich cyfeiriad bilio hefyd er mwyn prosesu’r taliad.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cyfeiriad danfon yn barod ac yn gallu derbyn danfoniad yr eitem(au) ac, yn benodol, bod lle digonol i unrhyw gerbyd danfon gyrraedd yno i ddanfon yr eitem(au).

Gellir danfon archebion at gwmnïau sy’n anfon llwythi ymlaen, gwestai, llety gwely a brecwast, a chwmnïau storio ac adleoli a nodir gennych chi fel y sawl sy’n meddiannu’r archeb ar eich rhan. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gallu rhoi ad-daliad na phrosesu dychweliad am unrhyw nwyddau a ddifrodir neu a gollir wedi iddynt gael eu derbyn â llofnod gan y lleoliadau hyn ar eich rhan.

Oes modd i mi newid y manylion danfon?

Oes, mae modd i chi newid eich manylion danfon cyn i ni anfon eich eitem(au). Os yw’ch eitem(au) eisoes wedi’u hanfon, nid yw’n bosibl newid eich manylion danfon. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm gwasanaethau cwsmer ar +44 (0) 1766 770 774 neu info@portmeirionONLINE.co.uk.

Danfon yn Rhyngwladol

Gall unrhyw archebion i gyrchfannau y tu allan i’r DU fod yn destun ffioedd, tollau a threthi mewnforio a godir gan y wlad sy’n mewnforio pan fydd y danfoniad yn cyrraedd eich gwlad. Chi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw ffioedd, tollau a threthi ac unrhyw dolldaliadau ychwanegol. Sylwer bod rhaid i chi gydymffurfio â holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol y wlad y mae’r nwyddau’n cael eu danfon iddi. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau y caniateir mewnforio’r cynhyrchion rydych chi'n eu harchebu yn y wlad rydych chi'n ei dewis ar gyfer eu danfon. Gall hyn achosi oedi wrth eu danfon i chi, ac ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb am hynny.

Cyn gwneud archeb, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod unrhyw gynhyrchion a archebir yn cydymffurfio â rheoliadau mewnforio llywodraeth wladol a ffederal ac nad oes unrhyw ofynion neu gyfyngiadau lleol a allai effeithio ar dderbyn unrhyw un o’r cynhyrchion hyn ac rydych yn derbyn yr holl risg am hyn.

Ni fydd gennym unrhyw atebolrwydd i chi o ran oedi neu fethu danfon eitem o ganlyniad i amgylchiadau tu hwnt i’n rheolaeth resymol, yn cynnwys (heb gyfyngiad) oedi neu fethiant a achoswyd gan dywydd garw, streiciau neu broblemau trafnidiaeth.

A fydd ffioedd ychwanegol yn cael eu codi arnaf ar gyfer archebion rhyngwladol?

Gall unrhyw archebion i gyrchfannau y tu allan i’r DU fod yn destun tollau a threthi mewnforio – caiff y rhain eu codi gan y wlad sy’n mewnforio pan fydd y nwyddau yn cyrraedd eich gwlad. Cyfrifoldeb y cwsmer fydd yr holl dollau, ffioedd ac unrhyw dolldaliadau ychwanegol.

Rydw i wedi archebu ond heb glywed unrhyw beth wedyn, beth ddylwn i ei wneud?”

Anelwn at gadw mewn cysylltiad â chi bob cam o’r ffordd drwy ebost, ond mae ein tîm gwasanaethau cwsmer bob amser ar gael pe bai gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.

Dim ond rhan o fy archeb sydd wedi fy nghyrraedd, beth ddylwn i ei wneud?

Edrychwch ar eich cadarnhad anfon i wirio’r dyddiadau danfon. Pan fo’n bosibl, byddwn yn ymdrechu i anfon eich archeb i gyd efo’i gilydd, fodd bynnag bydd unrhyw eitemau nad ydynt mewn stoc yn cael eu hanfon cyn gynted â phosibl. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm gwasanaethau cwsmer ar +44 (0) 1766 770 774 neu info@portmeirionONLINE.co.uk.

Rydw i wedi tracio fy archeb ac mae’n dweud ei fod wedi cael ei ddanfon eisoes, ond nid yw wedi fy nghyrraedd. Beth ddylwn i ei wneud?

Gofynnwch i’ch cymdogion rhag ofn bod y parsel wedi cael ei adael gyda nhw, ac os ddim, cysylltwch â’n tîm gwasanaethau cwsmer ar +44 (0) 1766 770 774 neu info@portmeirionONLINE.co.uk ac fe wnawn ni ymchwilio ymhellach i’r mater.

Sut ydw i’n tracio cynnydd fy archeb?

Os oes gennych gyfeiriad ebost wedi’i gofrestru gyda ni, byddwch yn derbyn ebost i gadarnhau bod eich eitemau wedi cael eu hanfon.